Bydd Cynhadledd Cymru’r Gyfraith eleni yn cael ei chynnal ar ddydd Gwener 7 Hydref yn Venue Cymru, Llandudno (LL30 1BB).”
Er mwyn bwcio eich lle yn y Gynhadledd, cliciwch yma.
Mae'r rhaglen gyfredol ar gael yma.
Mae’r gynhadledd yn cynnig llwyfan i gyfraniadau nodedig i’r drafodaeth gyson am y datblygiadau cyfansoddiadol a ccyfreithiol yng Nghymru. Yn bresennol yn y gynhadledd, mae Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, sy’n traddodi anerchiad, gan i amseru’r gynhadledd gyd-fynd a’r Gwasanaeth Gyfreithiol blynyddol sy’n nodi dechrau’r Flwyddyn Gyfreithiol yng Nghymru, dathliad sy’n digwydd ym Mangor ac yng Nghaerdydd am yn ail.
Cynhaliwyd y Gynhadledd cyntf ym Mhrifysgol Caerdydd yn Hydref 2003 yn ôl awgrym gan Huw Williams o gwmni Geldards LLP, o ddod a holl gymuned Cymru’r Gyfraith a’r cymdeithasau cyfreithiol Cymreig at eu gilydd.
Yn adran Archif y wefan hon, ceir gasgliad o’r holl brif anerchiadau ac areithiau a draddodwyd yng nghynhadledd Cymru’r Gyfraith, ac mae lluniau o gynadleddau’r gorffennol i’w canfod yn yr adran Galeri.