Cyfieithiad i'w ddod yn fuan..
The Officers (together with any further persons co-opted in accordance with paragraph 16) are to form the Executive Committee of the Foundation and are, subject to any directions which the Board may give, to have full power to conduct the affairs of the Foundation and act on its behalf and in its name.
The Officers may, from time to time, coopt up to a total of five persons, at least two of whom must be members of the Board, to be members of the Executive Committee; such persons are to be members of the Executive Committee (unless they have previously ceased to hold office) until the meeting of the Board at which the term of office of the Chair comes to an end in accordance with paragraph 13.
A co-opted member of the Executive Committee may attend meetings of the Board but may not vote (unless already a member of the Board).
Mae Huw yn Brif Gynghorydd Cyfreithiol i Senedd Cymru.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Technegol y Bechgyn, Llanelli ac yna Coleg yr Iesu, Rhydychen a Choleg y Gyfraith. Roedd Huw yn erthygledig i gwmni Morgan Bruce & Nicholas yng Nghaerdydd, ac wedi iddo gymhwyso, bu’n gyfreithiwr o fewn llywodraeth leol gyda Chyngor Sir Morgannwg Ganol.
Ymunodd ag Edwards Geldard (fel yr oedd ar y pryd) yn 1987, gan ddod yn bartner y flwyddyn ganlynol. Treuliodd ei flynyddoedd cyntaf â’r cwmni yn cynghori Corfforaeth Ddatblygu Bae Caerdydd, a wedi hynny arbenigodd mewn cyfraith gynllunio, gorchmynion prynu gorfodol a iawndal, priffyrdd, gwaith llywodraeth leol a datganoli, yn bennaf ar ran y sector cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr. O 2008-2019, Huw oedd dirprwy Gadeirydd Geldards LLP, ac yr Uwch Bartner yn swyddfa Caerdydd y cwmni.
Bu Huw yn weithgar yn y datblygiadau cyfansoddiadol yng Nghymru ers 1997, ac wedi iddo ymddeol fel partner yn Geldards LLP yn 2019, ymunodd ac adran gyfreithiol Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (bellach yn Gomisiwn y Senedd) fel Prif Gynghorydd Cyfreithiol.
Roedd Huw yn un o sefydlwyr Cymru’r Gyfraith, a daeth yn Gadeirydd ar y sefydliad yn 2018. Ef hefyd yw cadeirydd diweddaraf Cyfraith Gyhoeddus Cymru, gan eistedd hefyd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac roedd yn ysgrifennydd cwmni i Ganolfan y Mileniwm Cymru o 1998 i 2019. Fe fuodd hefyd yn aelod o Bwyllgor Cynllunio ac Amgylchedd Cymdeithas y Cyfreithwyr, ac mae bellach yn aelod o Bwyllgor Cymru Cymdeithas y Cyfreithwyr.
Wedi i Frances adael yr ysgol yn 16 mlwydd oed gyda 6 Lefel O, gwyddai nad y Brifysgol oedd y lle iddi hi. Ei swydd gyntaf oedd fel ysgrifenyddes mewn swyddfa gyfreithwyr yng Nghasnewydd. Wedi iddi gymryd saib o’i gyrfa i fagu dau o blant, ei merch Sian a’i mab Alun, dychwelodd i’r gweithle. Ymunodd â CILEx yn 1992, gan dreulio’r 6 mlynedd a ganlyn yn astudio o adref, gan gymhwyso fel Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig yn 2000.
Mae Frances wedi gweithio yn Adran Deulu cwmni Caswell Jones, Caerffili, ers oddeutu 1995, gan weithio ar amryw o faterion megis materion ysgaru, ariannol a phlant. Fel cydnabyddiaeth i’w gwaith ac ymroddiad diflino, cafodd ei dyrchafu yn Bartner yn Caswell Jones. Fodd bynnag, mae ei chyfraniad i’r proffesiwn cyfreithiol yn ymestyn yn bell tu hwnt i ddrysau Caswell Jones.
Bu Frances yn cynrychioli CILEx ar fwrdd Cymru’r Gyfraith, hyd nes ei hethol yn Ysgrifennydd yn 2018. Mae Frances hefyd yn Ymddiriedolwr i Sefydliad Mynediad at Gyfiawnder.
Roedd Frances yn un o sylfaenwyr cangen De Cymru o CILEx, pan gafodd ei ail-lansio yn 2004, a chafodd ei hethol yn drysorydd. Bu’n gadeirydd y gangen yn 2005, a phery i fod yn weithgar a’r gangen hyd heddiw.
Yn 2014-2015, Frances oedd Llywydd Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, y ddynes gyntaf Cymraeg i wneud hynny.
Mae Frances bellach yn dysgu Cyfraith a Materion Teulu i fyfyrwyr CILEx Lefel 3 yng Ngholeg Glan Hafren.
Keith was called to the Bar in July 1977. He left independent practice in order to join the legal service of the Welsh Government in 1999, before going on to serve as first Chief Legal Adviser to the National Assembly for Wales between 2007 and 2012. He has served as a Recorder on the Wales Circuit and was the first President of the Welsh Language Tribunal.
Kith has held an honorary chair and taught Legislation Studies at Swansea University and he currently lectures at the Welsh Governance centre at Cardiff University.
In 2018 Keith became Treasurer of the Legal Wales in 20 and is also the Conference Director of the Legal Wales Conference. In 2014 Keith was appointed Queen’s Counsel in honris causa for his contribution to the development of the National Assembly for Wales as a legislature, as well as contributing to the development of devolved law and to the discussion and study of wider Welsh legal issues. The distinction recognised his lead role in communicating to the judiciary, lawyers, academics, students and the general public, through the medium of both the Welsh and English languages, authoritative information about the legal aspects of devolved law and government in Wales.
Daw Elisabeth o Aberpennar yng Nghwm Cynon, lle bu’n ddisgybl yn yr Ysgol Gyfun. Gyda chymorth ei hathrawes Ffrangeg yno, derbyniodd le i astudio Ieithoedd Modern a Chanoloesol yng Ngholeg Somerville, Rhydychen – y cyntaf o’i theulu i fynd ymlaen i addysg uwch.
Wedi iddi gwblhau ei chwrs trosi ôl-raddedig yn y Gyfraith, bu Elisabeth yn ymarfer y gyfraith fasnachol a chyflogaeth gyda chwmni Theodore Goddard (Addleshaw Goddard LLP bellach), yn y Ddinas yn Llundain a gyda Osborne Clarke a Lyons Davidson ym Mryste.
Penderfynodd ei bod hi am helpu’r sawl nad oedd yn gallu fforddio ffioedd cyfreithiol, a symudodd Elisabeth i’r Gloucester Law Centre, lle bu’n gweithio’n ddiwyd am bum mlynedd fel yr arbenigwr cyflogaeth.
Dilynodd Elisabeth ei chariad at ieithoedd gan symud i Ffrainc i weithio yn Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbourg am bum mlynedd, cyn iddi ddychwelyd i Gymru i weithio o fewn Gwasanaeth Cyfreithiol Llywodraeth Cymru yn nyddiau cynnar datganoli. Dros ugain mlynedd olaf ei gyrfa, daeth Elisabeth yn arbenigwr mewn cyfraith gyfansoddiadol a gweinyddol, gan gynnwys hawliau dynol a chyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Oherwydd yr arbenigedd yma, cafodd Elisabeth ei hapwyntio fel Prif Ymgynghorydd Cyfreithiol i Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) yn 2012.
Yn 2019, penderfynodd Elisabeth ymddeol. Mae hi bellach yn cymryd rhan mewn llu o brosiectau a gwaith gwirfoddol, yn benodol gwaith i ledaenu mynediad i’r proffesiwn cyfreithiol.
© Hawlfraint 2021 - Cymru'r Gyfraith - Gwefan gan Delwedd