Ymateb Cymru’r Gyfraith i gynlluniau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddiwygio cymorth cyfreithiol troseddol
Mae Bwrdd Sefydliad Cymru’r Gyfraith wedi ymateb i ddogfen ymgynghorol y Weinyddiaeth Gyfiawnder “ Trawsnewid cymorth cyfreithiol: cyflwyno system mwy credadwy ac effeithiol” gan fynegi pryder am bwriad ddiddymu’r elfen o ddewis rhwng cyfreithwyr cymorth cyfreithiol a lleihau nifer y darparwyr cymorth cyfreithiol troseddol yng Nghymru 80%.
Ym marn y Bwrdd fe fyddai’r newidiadau hyn:
- yn tanseilio hawliau diffinyddion,
- yn andwyol i weinyddiaeth cyfiawnder, ac
- yn ei gwneud hi’n amhosibl i sicrhau gwasanaeth cyfreithiol troseddol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Er mwyn darllen ymateb y Bwrdd yn llawn - cliciwch yma (Saesneg yn unig)