Barnwyr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol: pwy ydym ni a beth yr ydym ni yn ei wneud?
Mae Barnwyr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol yn ddeiliad swyddi barnwrol, sydd wedi cael eu hapwyntio o bob rhan o’r system llysoedd a thribiwnlys.
Rydym yn gweithio mewn modd gwirfoddol er mwyn ymgysylltu gyda’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu; yn darparu gwybodaeth am y farnwriaeth, y gwaith yr ydym yn ei wneud a sut yr ydym yn cael ein penodi. Mae gennym hefyd gyfrifoldeb i annog gweithwyr cyfreithiol proffesiynol a myfyrwyr y gyfraith i ystyried gyrfa yn y farnwriaeth, gan ganolbwyntio yn benodol ar unigolion sydd yn dod o grwpiau sydd yn cael eu tangynrychioli. Yn olaf, rydym ar gael i gynorthwyo ein cydweithwyr barnwrol a/neu weithredu fel delfrydau ymddwyn ar faterion amrywiaeth/cysylltiadau cymunedol.
Wrth edrych yn allanol o’n swyddogaeth, ein nod yw cynyddu hyder y cyhoedd yn y system gyfreithiol. Gwnawn hyn drwy wella’r ddealltwriaeth a’r wybodaeth am yr hyn yr ydym yn ei wneud a phwy yr ydym; y nod yw dileu unrhyw gamsyniadau am y farnwriaeth.
- Mae’r modd y mae pob Barnwr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol yn cyflawni ei rôl yn amrywio, fodd bynnag mae enghreifftiau o ymgysylltiad cymunedol yn cynnwys:
- Ymweliadau ag ysgolion, colegau a phrifysgolion i gyfarfod myfyrwyr a rhannu gwybodaeth am ein gwaith;
- Croesawodd Tribiwnlys Cyflogaeth Caerdydd ysgol gynradd leol atynt, gan roi cyfle i blant ym mlwyddyn 5 i ymweld â’r Tribiwnlys a chyfarfod staff a Barnwyr Cyflogaeth ar gyfer sesiwn Cwestiwn ag Ateb. Dilynwyd hyn gyda ffug dreial bychan, ble chwaraeodd y disgyblion a’r athrawon gwahanol rannau;
- Chwarae rhan Barnwr mewn cystadlaethau eiriolaeth / treial ffug a gafodd eu trefnu gan y Sefydliad Dinasyddiaeth;
- Cyfarfod grwpiau cymunedol lleol, megis Mosg lleol.
- O ran ein cyfrifoldeb i annog eraill i ystyried gyrfa farnwrol rydym wedi ymgymryd â’r canlynol:
- Mynychu noson “cyfarfod y barnwyr” Cymdeithas y Gyfraith gyda chyfreithwyr lleol;
- Mynychu colegau AU lleol, cyfarfod gyda myfyrwyr CILEx a Lefel A i gymryd rhan mewn sesiynau Cwestiwn ag Ateb;
- Cynnig cyfleoedd cysgodi i’r rhai hynny sydd â diddordeb mewn gyrfa farnwrol (unai drwy gymdeithasau proffesiynol lleol neu gynllun cysgodi gwaith y Weinyddiaeth Cyfiawnder cenedlaethol).
Wrth rannu eich stori; eich cefndir a sut y cawsoch eich penodi, gallwch godi ymwybyddiaeth fod yna lwybrau niferus at yrfa farnwrol.
Gellir canfod manylion am Farnwyr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol yng Nghymru ar y ddolen ganlynol:
www.judiciary.gov.uk
Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal cyfarfod neu ddigwyddiad ac yn dymuno holi ynghylch a chael Barnwr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol yn bresennol, cysylltwch gyda Jacqueline McLean o’r Swyddfa Farnwrol ar:
Jacqueline.McLean@judiciary.gsi.gov.uk
Barnwr Cyflogaeth Sian Davies
Tribiwnlys Cyflogaeth Caerdydd
1 Rhagfyr 2016