Clywn enw Hywel yn aml wrth drafod codeiddio cyfreithiau Cymru’r Canol Oesoedd yn Hendy-gwyn yn Sir Gaerfyrddin, cyfreithiau a’i gelwir yn Gyfraith Hywel Dda. Er na ellir dyddio’r un llawysgrif sy’n bod heddiw yn ôl i gyfnod Hywel, ceir gyfeiriadaeth at enw Hywel yn eu rhagymadroddion a phery ei enw i fod yn gysylltiedig â’r gyfraith yng Nghymru a fodolodd hyd nes dyddiad gweithredu’r Ddeddf Cyfreithiau yng Nghymru yn 1535-1542.
Barnwr yn Llys y Sesiwn Fawr yng Nghymru. Yn frenhinwr blaenllaw, carcharwyd yn ystod y Rhyfel Cartref gan iddo dreulio’i amser yn casglu a chysodi’r adroddiadau Cyfraith Gyffredin cyntaf, rhagflaenydd y llyfr achosion modern.
Yn 1650 pan oedd yn un o’r sawl brenhinwr yr ystyriodd Senedd y Gweddill eu dienyddio, dywedodd pe byddai’n mynd ar y grocbren, fe fyddai’n “crogi â’r Beibl dan y naill gesail, a’r Magna Carta dan y llall”.
Daeth Syr John Vaughan i’r amlwg yn sgil ei benderfyniad nodedig yn achos Bushell (1670), a nododd nad oedd aelodau rheithgor i’w dirwyo am ddychwelyd dyfarniad a oedd yn groes i gyfeiriadau’r Barnwr a felly sefydlu yr egwyddor o annibyniaeth y rheithgor.
Ganed Leoline Jenkins yn Llantrisant yn fab i berchennog tir bach. Aeth i'r ysgol yn nhref gyfagos y Bont-faen ac yna aeth ymlaen i Goleg yr Iesu, Rhydychen.
Fel Barnwr yn Llys y Morlys o 1665, roedd yn rhan flaenllaw o’r ymdrech i ddatblygu Cyfraith Forlys Lloegr i fod yn gorff cydlynol o gysyniadau cyfreithiol. Roedd hefyd yn Ysgrifennydd Gwladol dan deyrnasiad Siarl II. Sicrhaodd fodolaeth y Statud Dosbarthiad 1670 a oedd yn ymwneud a diewyllysedd, ac roedd yn un o ddraftwyr Statud y Twyllau 1677.
Roedd Syr Leoline hefyd yn ymddangos ar ran y Brenin mewn achosion preifat rhyngwladol yn ogystal â’i rôl fel diplomydd. Roedd yn Bennaeth ar Goleg yr Iesu, Rhydychen, a chymynroddodd waddol er mwyn datblygu cymeriad Cymreig y coleg ymhellach.
Roedd Syr Leoline yn siarad Cymraeg yn rhugl, ac roedd yn hoff o ddyfynnu o darddiadau Cymreig, weithiau i ddryswch ei wrandawyr.
Roedd Syr William Jones FRS FRSE yn ieithegydd Eingl-gymreig, yn farnwr puisne yng Ngoruchaf Lys y Farnweiniaeth yn Fort William ym Mengal, ac yn ysgolhaig ar yr India hynafol. Roedd yn adnabyddus o ganlyniad i’w ddamcaniaeth bod perthynas yn bodoli rhwng ieithoedd Ewropeaidd a Indo-Ariaidd, gan fathu’r term Indo-Ewropeaidd.
Ganed yn Sgiwen, Castell-nedd, yn fab i groser, cymhwysodd Samuel Evans fel cyfreithiwr. Cafodd ei ethol i’r Senedd yn 1890, cyn ei alw i’r Bar y flwyddyn ganlynol, a’i benodi’n Gyfreithiwr Cyffredinol yn 1908.
Derbyniodd ei apwyntiad yn Llywydd Adran Profiant, Ysgar a’r Morlys yn 1910. Gwnaeth gyfraniad sylweddol i Gyfraith Morlys ac roedd hefyd yn Llywydd ar Lys Ysbail y Môr a sefydlwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae Gwobr Syr Samuel Evans, a sefydlwyd yn ei gof drwy danysgrifiad cyhoeddus yn 1923, yn dal i gael ei dyfarnu am y radd cyfraith israddedig orau mewn Ysgol y Gyfraith Gymreig gan Gronfa Etifeddiaeth Y Werin a weinyddir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Delwedd: Gwybodaeth i'w ddod...
Wedi ei fagwraeth wylaidd yn Sir Gaernarfon, cymhwysodd David Lloyd George yn gyfreithiwr ,gydag anrhydedd, yn 1884, wedi i’w ewythr wario ei arbedion bywyd i dalu’r ffioedd o £100.
Roedd y rhan y chwaraeodd Lloyd George yn yr achos Gladdedigaeth Llanfrothen, a oedd yn ymwneud a hawliau’r anghydffurfwyr i’w claddu mewn mynwent Anglicanaidd , yn ran mawr o’i lwyddiant yn ei etholiad i’r Senedd fel aelod dros Fwrdeistrefi Caernarfon yn 1890.
Roedd yn Ganghellor y Trysorlys 1908-15, Gweinidog Arfau Rhyfel 1915, ac yn Ysgrifennydd Rhyfel 1916. Daeth yn Brif Weinidog ym Mis Rhagfyr 1916, ar drobwynt allweddol yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cynrychiolodd Prydain yng Nghynhadledd Heddwch Versailles, a bu’n Brif Weinidog hyd nes 1922.
Ganed John Sankey yn Swydd Henffordd, a chafodd ei fagu yng Nghaerdydd. Cafodd ei alw i’r Bar gan Y Deml Ganol yn 1892 wedi iddo raddio o Goleg yr Iesu, Rhydychen.
Ar ddechrau ei yrfa, roedd yn weithgar ar Gylchdaith De Cymru gan arbenigo mewn iawndal gweithwyr, hyd nes iddo dderbyn Sidan – a oedd, bryd hynny, yn golygu symud i siambrau yn Llundain – yn 1909. Cafodd ei benodi i’r Uchel Lys yn 1914, lle bu’n arolygu achosion caethiwedigaeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys achosion gweriniaethwyr Iwerddon a ddaliwyd ym Mrongoch, Sir Feirionnydd. Am y gwaith hwn derbyniodd ei GBE.
Er ei fod yn gwrthwynebu datgysylltiad yr Eglwys Gymreig, Sankey oedd un o brif ddraftwyr Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn 1917, sydd yn parhau i fod yn gyfredol hyd heddiw.
Yn 1919 roedd yn gadeirydd ar Gomisiwn y Diwydiant Glo, a chynhyrchodd adroddiad nodedig a awgrymodd wladoli’r diwydiant.
Penodwyd Sankey i’r Llys Apêl yn 1928. Wedi i’r ail Lywodraeth Lafur gael ei ffurfio yn 1929, cafodd ei benodi’n Arglwydd Ganghellor, gan ddwyn y teitl Arglwydd Sankey o Moreton. Trwy gydol ei gyfnod o chwe blynedd ar y Sach Wlân (Woolsack), roedd yr Arglwydd Sankey yn arloeswr diwygio’r gyfraith, gan sefydlu Pwyllgor Adolygu’r Gyfraith parhaol, rhagflaenydd Comisiwn y Gyfraith heddiw.
Yn ystod ei ymddeoliad, defnyddiwyd ei enw yn Natganiad Hawliau Dyn Sankey, siarter a luniwyd yn 1940 gan bwyllgor roedd H G Wells yn aelod blaenllaw ac yn , a dilynwyd yn agos yn fuan wedyn yn lunio Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol yn 1948.
Galwyd yr Arglwydd Atkin i’r Bar gan Lety Gray yn 1891 a datblygodd enw da o fewn y Bar Masnachol. Cafodd ei benodi i Fainc y Brenin yn 1913, a’i wneud yn Arglwydd Apêl yn 1919, a’n Arglwydd Cyfraith yn 1928.
Daeth yr Arglwydd Atkin yn adnabyddus yn sgil achos y “falwen yn y botel”, (Donoghue v Stevenson – 1932), achos sylfaenol Cyfraith Camwedd fodern. Roedd ei ddyfarniad anghydsyniol yn Liversidge v Anderson 1942 yn gefnogol o hawl y Llysoedd i adolygu gorchmynion gweinidogaethol a wnaethpwyd dan reoliadau cyfnod Rhyfel, ac arweiniodd y gâd i’r hyn sy’n cael ei ystyried yn adolygiad barnwrol safonol heddiw.
Ynghyd â F E Smith, chwaraeodd Atkin rhan flaenllaw yn ailsefydliad Llety Gray, Llety’r Llysoedd sydd a’r cysylltiadau cryfaf â Chymru ar ddiwedd yr 19g – 20g.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Ardwyn cyn mynd yn ei flaen i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1891 ac yna i Goleg Lincoln, Rhydychen yn 1893. Yno, enillodd wobr Carrington yn y Gyfraith yn 1897 gan raddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn ei BCL, cyn ei alw i’r Bar gan y Deml Fewnol.
Agorodd gyfadran y Gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1901, ac ymgeisiodd Levi am swydd Athro, er mawr wrthwynebiad gan Yr Athro Cyfraith Loegr Vinerian, A. V. Dicey, cyn athro Levi yn Rhydychen. Gwrthwynebodd yn chwyrn i gais Levi am y swydd, gan nodi na ddylai daflu ei allu i’r gwynt mewn man mor anghysbell a di-nod ag Aberystwyth (roedd Levi yn un o olynnion F.E.Smith, Arglwyd Birkenhead, fel un o‘r myfyrwyr mwyaf disglair dan adain Dicey). Er gwaetha’r gwrthwynebiad cychwynnol, enillodd gefnogaeth Dicey wrth iddo gael ei benodi yn Athro Cyfraith Loegr yn Aberystwyth. Bu’n bennaeth ar yr Adran hyd nes ei ymddeoliad yn 1940.
Dan ei adain, daeth yr adran yn adnabyddus ar draws Prydain, gan Brifysgolion ac o fewn y proffesiwn cyfreithiol. Sefydlodd yr ysgol yn un â gweledigaeth, fel ysgol oedd yn cynnig mwy na man hyfforddi i gyfreithwyr y dyfodol yn unig, a phery’r cysyniad yma i ysbrydoli adrannau cyfraith hyd heddiw.
Roedd gallu addysgu israddedig Levi ei hun yn nodedig, a daeth at sylw darlithwyr y tu hwnt i’r gyfraith o ganlyniad i’w arddull ddarlithio unigryw. Teithiodd Gymru drwyddi draw yn codi arian i’r Adran i’w chadw i redeg, ac roedd o blaid yr achos Rhyddfrydol yng Nghymru.
Daeth Elizabeth Andrews yn ynad yn 1920, un o’r menywod cyntaf yng Nghymru i wneud hynny (y cyntaf oedd y Fonesig Margaret Lloyd George GBE ar Noswyl Nadolig 1919).
Roedd yn awdurdod uchel ei pharch ar droseddau ieuenctid, a derbyniodd OBE yn 1948 am ei gwasanaethau fel ynad. Hithau hefyd oedd y fenyw gyntaf i drefnu’r Blaid Lafur yng Nghymru, gan gyfieithu taflenni o’r Saesneg i’r Gymraeg, gan annog merched i ddefnyddio eu pleidlais newydd.
Elizabeth Andrews oedd un o’r ffigyrau blaenllaw yn yr ymgyrch am gawodydd mewn pyllau glo, ac roedd yn un o’r tair menyw a gyflwynodd dystiolaeth yn Nhŷ’r Arglwyddi gerbron Comisiwn Sankey ar y Diwydiant Glo yn 1918. Agorodd ysgol feithrin cyntaf Cymru yn y Rhondda yn 1938.
Agnes Twiston Hughes oedd y fenyw Gymraeg cyntaf i gael ei derbyn yn gyfreithiwr yn 1925, wedi iddi hyfforddi dan adain ei thad J W Hughes yng Nghonwy. Astudiodd am radd BSc (Econ) ym Mhrifysgol Llundain, a chafodd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn ei arholiadau terfynol Cymdeithas y Gyfraith yn 1923, gan ennill gwobrau Sheffield a Mackrell am y farciau uchaf yn ei blwyddyn.
Roedd Agnes Hughes yn ymarfer hyd gydol ei gyrfa yng Nghonwy, gan olynu ei thad fel pennaeth y cwmni J W Hughes & Co yn 1949. Roedd Agnes yn weithgar yn ei chymuned yng Nghonwy yn ei gwaith fel cynghorydd lleol, ac fel Maer Conwy yn 1954. Bu Agnes hefyd yn ffigwr blaenllaw yn yr ymgyrch i achub pont grog Thomas Telford yng Nghonwy, a sicrhau ei gadwraeth bellach dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Magwyd Edmund Davies yng Nghwm Cynon, lle mynychodd Ysgol Ramadeg Aberpennar. Cafodd ei alw i’r Bar yn 1929, wedi iddo astudio yng Ngholeg y Brenin, Llundain ac yna yn Rhydychen, wedi iddo ennill Ysgoloriaeth Vinerian.
Roedd yn dra gweithgar yng Nghymru, hyd nes ei benodi i’r Uchel Lys yn 1958 o ganlyniad i’w gyfnod fel Cofiadur Merthyr Tudful, Abertawe a Chaerdydd. Roedd yn un o Farnwyr mwyaf adnabyddus y 60au a’r 70au, a hynny yn rhannol oherwydd ei ran yn achos y Lladrad Trên Mawr yn 1963, ac yn ddiweddarach fel llywydd Tribiwnlys Aberfan. Penodwyd i’r Llys Apêl yn 1966, ac yna daeth yn Arglwydd Cyfraith yn 1974, gan ddwyn yr enw Yr Arglwydd Edmund-Davies o Aberpennar.
Yn ystod ei arglwyddiaeth, dewisodd yr arwyddair “Anela’n Uchel”, cysyniad a ddaeth ,yn ddiweddarach, yn sail i Ymddiriedolaeth Addysg Gyfreithiol yr Arglwydd Edmund-Davies. Bwriad yr Ymddiriedolaeth ydy i roi’r cyfle i bobl ifanc yng Nghymru (neu sydd â chysylltiad â Chymru) sydd â diddordeb ym myd y gyfraith, i allu dechrau ar yrfa cyfreithiol beth bynnag bo eu cefndir.
Ganed Tasker Watkins yn Nelson, Morgannwg. Roedd yn fab i ffitiwr injans, a chafodd ei addysgu yn yr Ysgol Ramadeg i Fechgyn, Pontypridd. Wedi hynny, aeth ymlaen i yrfa fasnachol yn Llundain cyn yr Ail Ryfel Byd.
Ym Mis Awst 1944, tra bu’n gadlywydd yn y Gatrawd Gymreig, enillodd y Groes Fictoria (VC), am ei ddewrder ar y 16eg Awst, 1944 ger Falaise yn Normandi.
Wedi diwedd y rhyfel, astudiodd er mwyn cael ei alw i’r Bar, a chafodd ei dderbyn i’r Deml Fewnol yn 1948. Gweithiodd yn eang o fewn trosedd a gwaith sifil ar Gylchdaith Cymru a Chaer, ac roedd yn rhan flaenllaw o’r galw i amddiffyn annibyniaeth y gylchdaith yn yr 1960au.
Fel cyfreithiwr, roedd yn eiriolwr darbwyllol yng ngŵydd ystod eang o dribiwnlysoedd, ac yn ei gyfnod ar y Fainc dangosodd anian farnwrol hynaws.
Wedi ei gyfnod fel Cofiadur Merthyr Tudful ac Abertawe, cafodd ei benodi i’r Uchel Lys yn 1971, Llys yr Apêl yn 1980 a bu’n Ddirprwy Brif Ustus dan yr Arglwydd Lane a’r Arglwydd Taylor. Cafodd ei benodi yn GBE yn 1990.
Roedd Watkins hefyd yn chwaraewr Rygbi, gan chwarae yn safle’r maswr i’r Fyddin, Cardiff RFC a’r Glamorgan Wanderers. Roedd yn Llywydd ar Undeb Rygbi Cymru o 1993 i 2004, gan oruchwylio trawsnewidiad y gêm o’i gwreiddiau amaturaidd i lwyfannau proffesiynol, gan ddyrchafu’r gêm o lefel Clwb i lefel rhanbarthol yng Nghymru.
Ganed yr Arglwydd Elwyn Jones yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin, yn fab i weithiwr tunplat. Mynychodd yr Ysgol Ramadeg i Fechgyn, Llanelli, a gyda chymorth ysgoloriaethau, aeth yn ei flaen i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yna i Brifysgol Caergrawnt, lle bu’n Llywydd yr Undeb.
Cafodd ei alw i’r bar gan Lety Gray, ac roedd yn gwnsler ieuaf erlyn yn Nuremberg. Cafodd ei ethol i’r Senedd yn 1950 dros etholaeth Plaistow (neu Newham yn ddiweddarach). Roedd yn Dwrnai Cyffredinol o 1964-1970, ac yn Arglwydd Ganghellor o 1974-1979.
Cafodd Martin Edwards ei addysg yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen. Hyfforddodd dan adain ei ewythr, Griffith Llewellyn o’r cwmni Gwilym James, Llewellyn & Co yn Merthyr Tudful, a chafodd ei dderbyn yn dwrnai yn 1934.
Roedd yn un o sylfaenwyr 614 (Morgannwg) Sgwadron RAuxAF, a chafodd glod am ei gyfnod â’r sgwadron yn y Dwyrain Canol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Wedi’r rhyfel, ymunodd â’i dad i greu’r cwmni Charles & Martin Edwards.
Eisteddodd ar Gyngor Cymdeithas y Cyfreithwyr am sawl blwyddyn, gan chwarae rhan flaenllaw yn y newidiadau i addysg broffesiynol cyfreithwyr, a sefydlu Coleg y Gyfraith. Yn 1973, Edwards oedd y cyfreithiwr cyntaf o Gymru i’w ethol yn Llywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr.
Yn 1972, cyfunodd gwmni’r teulu â chwmni Allen Pratt & Geldard, i ffurfio’r cwmni adnabyddus Edwards Geldard (neu Geldards LLP bellach).
Cafodd Eirian Evans ei haddysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, cyn iddi ymuno a chwmni JR Williams, Abergele. Evans oedd llywydd benywaidd cyntaf Cymdeithas Cyfreithwyr Gogledd Cymru a Chaer, ac yn 1997, hi oedd y ddynes gyntaf i’w hethol i Gyngor Cymdeithas y Cyfreithwyr Cymru a Lloegr.
Roedd Leo Abse yn fab i gyfreithiwr a pherchennog sinemâu yng Nghaerdydd, ac ef oedd un partneriaid sefydledig cwmni Leo Abse & Cohen (sydd bellach yn rhan o Slater & Gordon). Roedd hefyd yn AS Llafur dros Bont – y – pŵl ac yna Torfaen am bron i 30 mlynedd.
Roedd yn adnabyddus am hyrwyddo’r mesur Aelod Preifat i ddad-droseddoli perthnasau cyfunrywiol, ac i ryddfrydoli cyfraith ysgar. Drwy gydol ei yrfa seneddol, cyflwynodd Leo Abse fwy o fesurau Aelod Preifat na’r un seneddwr arall yn yr ugeinfed ganrif.
Yn ddiweddarach yn ei yrfa wleidyddol, dangosodd wrthwynebiad yn erbyn datganoli i Gymru, pŵer niwclear, arfau niwclear, a phresenoldeb arfog Byddin Prydain yng Ngogledd Iwerddon.
Wedi iddo ymddeol o’r Senedd, ysgrifennodd sawl llyfr am wleidyddiaeth, drwy ogwydd ei ddiddordeb mewn seicdreiddiad.
Delwedd: Gwybodaeth i'w ddod...
Ganed yr Arglwydd Thomas yn Nyffryn Tawe, yn fab i gyfreithiwr a weithiodd dan Is-siryf Sir Frycheiniog.
Wedi gyrfa academaidd lewyrchus yng Nghaergrawnt a Chicago, cafodd yr Arglwydd Thomas ei alw i’r Bar gan Lety Gray, a bu’n gweithio o fewn y Bar masnachol yn Llundain. Daeth i’r amlwg yn gyhoeddus wedi iddo gael ei benodi’n ymchwilydd i’r Adran Fasnach a Diwydiant, oedd yn gyfrifol am archwilio i helyntion y papurau newydd y Mirror Group, a’i berchennog, Robert Maxwell.
Treuliodd gyfnod fel Cofiadur ar Gylchdaith Cymru a Chaer, yna cafodd ei benodi i’r Uchel Lys yn 1996, a bu’n Farnwr Llywyddol y Gylchdaith o 1998-2001. Yn ystod ei gyfnod fel Barnwr Llywyddol y Gylchdaith, bu’n weithgar â’r ymdrechion i sefydlu llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, ac roedd yn allweddol i gydlynu a lliwio ymateb y gymuned gyfreithiol Gymreig i’r newidiadau cyfansoddiadol oedd ar droed.
Cafodd ei benodi i’r Llys Apêl yn 2003, a bu’n Farnwr Llywyddol Arweiniol, a Dirprwy Lywydd Cyfiawnder Troseddol, cyn ei benodi’r Lywydd Mainc y Frenhines yn 2011.
Yn 2013, cafodd ei benodi yn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, a thrwy hynny ei wneud yn arglwydd am oes, gan ddwyn y teitl Arglwydd Thomas o Gwmgïedd.
Yn 2017, derbyniodd yr Arglwydd Thomas y gwahoddiad gan Brif Weinidog Cymru, i gadeirio’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a chyhoeddwyd adroddiad eang o argymhellion y Comisiwn hwnnw yn 2019.
Mae’r Arglwydd Thomas hefyd yn Ganghellor ar Brifysgol Aberystwyth.
Delwedd: Gwybodaeth i'w ddod...
Addysgwyd David Lloyd Jones yn yr Ysgol Ramadeg i Fechgyn, Pontypridd. Roedd yn gymrawd yng Ngholeg Downing Caergrawnt o 1975-1991. Cymerodd “sidan” yn 1999, a cafodd ei benodi i’r Uchel Lys yn 2005, ac yna i Lys yr Apêl yn 2012. Wedi hynny, bu’n Gadeirydd Comisiwn y Gyfraith.
Yn ystod ei gyfnod yng Nghomisiwn y Gyfraith, cyhoeddodd adroddiad nodedig ar “Ffurf a hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru” (2017), adroddiad a fu’n sbardun i ymdrechion codeiddio a chydgrynhoad a ganlyn yng Nghymru.
Yn 2017, cafodd ei apwyntio yn Ustus i Oruchaf Lys y DU, y cyntaf o Gymru i wneud hynny, gan ddwyn y teitl yr Arglwydd Lloyd-Jones.
Fe fu Carolyn Kirby yn gyfreithiwr yn Abertawe am ugain mlynedd. Yn 1999, cafodd ei hethol i Gyngor Cymdeithas y Cyfreithwyr, gan gynrychioli canolbarth a dwyrain Cymru, ac yn yr un flwyddyn daeth yn llywydd ar Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl yng Nghymru. Yn 2002, cafodd hi ei hethol yn llywydd Cymdeithas Cyfreithiwr Cymru a Lloegr, y ddynes gyntaf i wneud hynny.
Mae ganddi hi ddoethuriaethau anrhydeddus o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a Phrifysgol Dwyrain Lloegr.
Yn ogystal â’i gwaith ym myd y Gyfraith, mae hi yn gadeirydd ar elusen gancr yn Ne Cymru, y buodd hi sefydlu yn 1993. Yn 2016, derbyniodd hi OBE am ei gwasanaethau i gyfiawnder a gofal cancr.
Mae Caroline Kirby hefyd yn arweinydd addoli lleyg, yn ogystal â’n gofrestrydd cyfreithiol i Archddiacon Gŵyr, a’n Farnwr yn Llys Disgyblu’r Eglwys yng Nghymru a Llys y Dalaith.
Mae Frances Edwards yn Weithredwr Cyfreithiol Siartredig sy’n arbenigo mewn Cyfraith Teulu, yn ei swydd fel Partner yn Caswell Jones, cyfreithwyr yng Nghaerffili. Roedd hi’n cynrychioli Cymru ar gyngor CILEx o 2008-2018, a hi oedd Llywydd Cenedlaethol CILEx o 2014-2015. Edwards oedd y ddynes gyntaf o Gymru i wneud hynny.
Ganed yr Arglwyddes Ustus Nicola Davies DBE yn Llanelli, a chafodd ei haddysg yn yr Ysgol Ramadeg i Ferched, Pen-y-bont ar Ogwr.
Gweithiodd fel dadansoddwr cyllidol mewn cwmni o gyfreithiwr, cyn iddi gael ei galw i’r Bar gan Lety Gray.
Yn ystod ei chyfnod yn y Bar, arbenigodd Nicola Davies mewn cyfraith feddygol, gan ymddangos mewn sawl achos droseddol a sifil enwog, cyn iddi dderbyn “sidan”, a hithau ddim ond yn 39 mlwydd oed.
Cafodd ei phenodi i’r Uchel Lys yn 2010, a bu’n Farnwr Llywyddol ar Gylchdaith Cymru o 2014-2017. Cafodd ei phenodi yn Arglwydd Ustus yr Apêl yn y flwyddyn ganlynol.
Nicola Davies yw’r ddynes Gymraeg gyntaf i ddwyn y teitlau CF, Barnwr yr Uchel Lys, Barnwr Llywyddol Cylchdaith Cymru ac Arglwydd Ustus yr Apêl.
Roedd Charles Evans Hughes yn fab i Weinidog Bedyddwyr Cymraeg, a fudodd i’r UDA.
Hughes oedd yr 11eg Prif Ustus i Oruchaf Lys yr UDA. Hughes hefyd oedd 36ain Llywodraethwr Efrog Newydd yn 1906, yn Ustus Cyswllt y Goruchaf Lys o 1910-1916, enwebai arlywyddol y Blaid Weriniaethol yn yr etholiad arlywyddol yn 1916, yn ogystal â’r 44fed Ysgrifennydd Gwladol yr UDA, 1920-1925.
Cyn iddo gael ei benodi’n Brif Ustus, roedd yn un o gyfreithwyr mwyaf blaenllaw’r UDA.
Yn 1930, cafodd Hughes ei benodi’n Brif Ustus gan yr Arlywydd Herbert Hoover. Ynghyd a’r Ustus Cysylltiol Owen Roberts, roedd llais Hughes yn cynnig y bleidlais fwyaf gogwyddol ar y fainc, gan i’w farn ogwyddo yn aml rhwng adain rhyddfrydol ac adain geidwadol y Llys, yn enwedig mewn achosion yn ymwneud a’r “New Deal” yn yr 1930au
Er ei fod yn falch o’i linach Gymreig, a’n noddwr brwd o achos Cymry Gogledd America, roedd Charles yn ystyried ei hun yn Americanwr i’r carn, a gwrthododd gynnig o radd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ddwywaith.
Ganed Samuel Griffith ym Merthyr Tudful, a bu’n driw i’w linach Gymreig ar hyd ei oes. Cyfunodd yrfa mewn gwleidyddiaeth a’r gyfraith.
Roedd yn Dwrnai Cyffredinol a phennaf Queensland. Cafodd ei benodi yn Brif Ustus Queensland yn 1893, ac roedd yn gyfrifol am lunio Côd Droseddol Queensland. Lluniwyd sawl deddfwriaeth arall yn arddull y Côd mewn sawl talaith yn Awstralia a’r Gymanwlad, a daeth yr arddull i’w adnabod fel y côd “Griffith”.
Cymerodd Griffith ran allweddol yn llunio Cyfansoddiad Awstralia, a chafodd ei benodi yn Brif Ustus cyntaf Awstralia o 1903, hyd nes ei farwolaeth yn 1920.
Gwasanaethodd y Fonesig Sian Elias fel y 12fed Prif Ustus Seland Newydd. Ganed hi yn Llundain yn 1949 i fam o Gymry a thad Armeniaidd a symudodd i Auckland, Seland Newydd yn 1952.
Mynychodd Sian Elias Brifysgolion Auckland a Stanford cyn ymuno â chwmni cyfraith yn Auckland ym 1972 cyn chael ei dderbyn yn Fargyfreithiwr a Chyfreithiwr.
Ar ôl gwasanaethu fel Comisiynydd y Gyfraith rhwng 1984 a 1988, gyda gyfrifoldeb am ddiwygio cyfraith cwmnïau, daeth Sian Elias yn un o'r ddwy fenyw gyntaf i gael ei phenodi'n Gwnsler y Frenhines yn Seland Newydd.
Agwedd nodedig yn ymarfer cyfreithiol Sian Elias wrth y Bar ac yn ystod eu yrfa farnwrol fu ei gwaith mewn perthynas â hawliadau o dan delerau Cytuniad Waitangi (a lofnodwyd yn 1840 rhwng y Goron Brydeinig a’r phobl Maori).
Fe penodwyd Sian Elias i'r Uchel Lys yn 1995, a daeth yn Brif Ustus Seland Newydd yn 1999 a'r menyw gyntaf i gael ei phenodi felly, gan wasanaethu tan 2019. Yn 2004, disodlodd Seland Newydd y Cyfrin Gyngor yn Llundain fel y llys apêl terfynol gyda'i Goruchaf Lys ei hun gyda Sian Elias y llywydd cyntaf.
Dychwelodd Sian Elias i'w gwreiddiau Cymreig pan oedd hi'n Ddarlithydd Hamlyn yn 2016 ac ymwelodd â Phrifysgol Caerdydd i gyflwyno'r cyntaf yn y gyfres o ddarlithoedd ar "Tegwch mewn Cyfiawnder Troseddol".
Delwedd: Gwybodaeth i'w ddod...
Ganed Julia Gillard yn Y Barri, Morgannwg, cyn i’w theulu fudo i Adelaide, Awstralia yn 1966. Wedi iddi fynychu Prifysgolion Adelaide a Melbourne, ymunodd a’r cwmni Slater & Gordon yn 1987. Daeth yn bartner yn y cwmni yn 1990, gan arbenigo mewn Cyfraith Ddiwydiannol. Gadawodd y cwmni yn 1996 er mwyn dechrau ar ei gyrfa o fewn gwleidyddiaeth.
Cafodd ei hethol i Dŷ’r Cynrychiolwyr Ffederal yn 1998, daliodd swydd weinidogaethol o fewn y llywodraeth Lafur yn 2007, cyn ei hethol yn Brif Weinidog yn 2010 – 2013.
Gwnaethpwyd Julia Gillard yn gymrawd anrhydeddus i Brifysgol Aberystwyth yn 2015, ac ers mis Chwefror 2014 bu’n gadeirydd ar y Bartneriaeth Ryngwladol dros Addysg. Ym mis Mai 2020, cyhoeddodd ei bod wedi ei phenodi yn gadeirydd Ymddiriedolaeth Welcome a bydd ei chyfnod yno yn dechrau ym Mis Ebrill 2021.
© Hawlfraint 2021 - Cymru'r Gyfraith - Gwefan gan Delwedd